Bigas Luna
Mae’r cyfarwyddwr ffilmiau Sbaeneg sy’n cael y clod am ‘ddarganfod’ yr actorion Penelope Cruz a Javier Bardem, wedi marw, yn 67 mlwydd oed.
Fe ddaeth y cyhoeddiad trwy asiantaeth newyddion Europa Press fod Bigas Luna wedi marw yn ei gartre’ yn Riera de Gaia ar ôl brwydr hir yn erbyn canser.
Fe gafodd Bigas Luna ei eni yn ninas Barcelona yng Nghatalunya ar Fawrth 19, 1946, ac fe ddaeth yn un o wneuthurwyr ffilm mwya’ adnabyddus Sbaen.
Fe saethodd ei ffilm gynta’, Tatuaje (Tatŵ) yn 1976, ond ei ffilm erotig a doniol, Jamon, Jamon a enillodd iddo wobr y Llew Arian yng Ngwyl Ffilmiau Fenis, a Gwobr y Rheithgor yng ngwyl ffilmiau San Sebastian.