Mae cannoedd o bobol wedi bod yn gorymdeithio trwy bentre’ glofaol yn Swydd Efrog, er mwyn nodi cau un o’r pyllau glo ola’ yng ngwledydd Prydain.

Mae glofa Maltby ger Rotherham yn Ne Swydd Efrog, wedi cael ei gau gan ei pherchennog Hargreaves Services. Fe benderfynon nhw yn gynharach eleni nad oedd cynhyrchu glo yno yn gwneud synnwyr masnachol.

Heddiw, roedd rhai glöwyr yn eu dagrau wrth i fand pres eu harwain nhw a’u cyn-gydweithwyr o gatiau’r gwaith hyd at fynwent y pentre’.

Yn y fynwent, fe gynhaliwyd gwasanaeth o ddiolchgarwch, gan weddïo am y dyfodol hefyd. Fe gladdwyd darn o lo diweddar yn y ddaear, y drws nesa’ i’r gofeb i 27 o ddynion fu farw mewn ffrwydriad dan-ddaear yn Maltby yn 1923.

Dim ond tair glofa dan-ddaear sydd bellach yn weithredol yng ngwledydd Prydain – Kellingley yng Ngogledd Swydd Efrog; Hatfield yn Ne Swydd Efrog; a Thoresby yn Swydd Nottingham.