Mae Iran a chwech o wledydd mwya’ blaenllaw’r byd wedi methu dod i gytundeb heddiw ar y ffordd ymlaen ar ddatblygiadau niwclear.

Yn ôl pennaeth polisi Ewrop, mae’r ddwy ochr yn parhau “gryn bellter” oddi wrth ei gilydd ar ôl deuddydd o drafod yn Almaty, Kazakhstan.

Ofn penna’ Ewrop a’r Gorllewin yw y gallai llywodraeth Tehran gamddefnyddio ei thechnoleg niwclear er mwyn cynhyrchu arfau o fewn y blynyddoedd nesa’.

Fe gafodd trafodaethau prynhawn heddiw eu hymestyn i’r gyda’r nos, ac roedd hynny wedi codi calonnau. Ond pan ddaeth y Farwnes Catherine Ashton, pennaeth polisi tramor yr Undeb Ewropeaidd, allan o’r cyfarfod, roedd ei sylwadau yn awgrymu fel arall.

Fe fydd pob un o’r trafodwyr nawr yn cysylltu gyda’u llywodraethau. Nid oes dyddiad wedi ei bennu ar gyfer trafodaethau pellach – arwydd arall fod y broses o siarad wedi torri i lawr.