Ceri Stokes
Mae heddlu yn Y Barri yn dal i aplelio ar y cyhoedd am unrhyw wybodaeth ynglyn â Ceri Stokes.

Maen nhw’n chwilio am y gwr 30 oed wedi iddo dorri amodau ei fechnïaeth a methu ymddangos gerbron llys.

Mae’n 5 troedfedd 10 modfedd o daldra, gyda gwallt byr, brown a llygaid brown.

Mae ganddo gysylltiadau agos gydag ardaloedd Y Barri a Phenarth.

Dylai unrhyw un sy’n gwybod am ei fynd a dod gysylltu â heddlu’r Barri ar y rhif 101, neu ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.