A483 ger Y Trallwng
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi rhyddhau pump o bobol o’u ceir heddiw, wedi damwain yn ardal Y Trallwng.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd osgoi’r dre’ tua 9.30 fore heddiw.
Yn ôl llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân ac Achub, roedd pump o bobol, mewn dau gar gwahanol, yn sownd ar ôl y gwrthdrawiad ar ffordd yr A483.
Ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau, fe gawson nhw eu cludo i’r ysbyty.