Mae dau ddyn wedi ymddangos gerbron llys wedi’u cyhuddo o saethu’n farw ddyn yn ei arddegau.
Roedd Natnael Tesfay, 20, a Christopher Aluma, 18, gerbon Llys Ynadon Highbury Corner yn Llundain heddiw, wedi’u cyhuddo o lofruddio Mohammed Hussein, 19.
Maen nhw wedi’u cyhuddo o saeth Mohammed Hussein yn ardal Edmonton tua 9.45pm ddydd Llun y Pasg. Fe wnaeth y parafeddygon eu gorau i achub y dioddefwyr, ond fe fu farw yn y fan a’r lle ar Bounces Road.
Roedd Mohammed Hussein wedi cael ei saethu unwaith yn ei frest.
Mae Natnael Tesfay a Christopher Aluma wedi eu dal yn y ddalfa nes y byddan nhw’n ymddangos gerbron llys yr Old Bailey ddydd Mawrth nesa’.