Mae cyn-arlywydd De Affrica, Nelson Mandela, wedi cael ei ryddhau o’r ysbyty.

Yn ôl datganiad gan swyddfa Arlywydd presennol De Affrica, Jacob Zuma, fe gafodd yr hynafgwr 94 blwydd oed ei anfon adre’ heddiw, ac fe fydd yn parhau i dderbyn gofal yn ei gartre’. Roedd yn diodde’ o niwmonia.

Fe gafodd Nelson Mandela ei gludo i’r ysbyty ym mhrifddinas De Affrica, Pretoria, ar Fawrth 27. Dyma ei drydydd gyfnod yn yr ysbyty ers mis Rhagfyr.