Mark Serwotka
Mae miloedd o weithwyr sifil yn cynnal streic heddiw mewn anghydfod chwerw gyda Llywodraeth Prydain dros gyflogau, pensiynau, ac amodau gwaith.
Mae disgwyl i streic undeb y PCS daro adrannau llywodraeth Prydain, llysoedd a chanolfannau profion gyrru.
Ond mae streic a oedd i fod i gael ei chynnal gan staff y Swyddfa Gartref a’r Asiantaeth Ffiniau wedi cael ei gohirio ar ôl i’r Llywodraeth ei herio’n gyfreithiol.
Mae’r PCS wedi cyhuddo Gweinidogion o wrthod trafod gyda nhw.
‘Toriadau annheg’
“R’yn ni wedi gofyn am drafodaethau ond mae gweinidogion ac uwch-swyddogion wedi gwrthod, felly r’yn ni’n gweithredu er mwyn gwrthwynebu a thynnu sylw at doriadau annheg a diangen i safon byw gweision sifil diwyd,” meddai’r Cymro Mark Serwotka, ysgrifennydd cyffredinol y PCS.
Mae streic arall ddydd Llun gan 55,000 o aelodau’r PCS yn yr Adran Gyllid a Thollau.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref fod ganddyn nhw gynlluniau wrth gefn er mwyn lleihau effeithiau’r streiciau.