George North - ynghanol y dadlau
Mae’r anghydfod ym myd rygbi Cymru yn parhau ar ôl i’r rhanbarthau wrthod gwahoddiad i gwrdd ag Undeb Rygbi Cymru.
Mae’r Undeb o’r farn mai’r ffordd orau o gadw sêr rygbi Cymru yng Nghymru yw trwy gytundebau rhwng y chwaraewyr a’r undeb yn ganolog, yn hytrach na gyda’r rhanbarthau.
Mae hynny’n ymateb i’r llif o chwaraewyr enwog sy’n gadael Cymru – y diweddara’ yw’r asgellwr, George North, sy’n debyg o adael y Scarlets am Northampton.
‘Torri addewid’
Yn eu tro, mae’r rhanbarthau’n cyhuddo’r Undeb o droi’n ôl ar addewid i sefydlu bwrdd proffesiynol rhwng yr Undeb a’r rhanbarthau.
Maen nhw hefyd yn dweud fod cytundebau canolog yn “ymateb byrbwyll” i broblemau’r gêm broffesiynol yng Nghymru ac maen nhw’n dweud y byddai hynny’n colli cannoedd o filoedd o bunnoedd i’r rhanbarthau.
Maen nhw’n cyhuddo Prif Weithredwr yr undeb, Roger Lewis, wedi “goruchwylio dirywiad y gêm yng Nghymru y tu allan i’r maes rhyngwladol”.
Eisiau trafod
Mewn ymateb dywedodd Undeb Rygbi Cymru eu bod nhw’n gwahodd y rhanbarthau “am y trydydd tro” i drafod gyda bwrdd yr undeb.
Hyd yma mae’r rhanbarthau wedi mynnu eu bod nhw’n trafod â’r undeb trwy gyfrwng y Bwrdd Proffesiynol Rhanbarthol, sydd wedi cwrdd un waith, a bod yr undeb yn rhoi cydnabyddiaeth i’r Bwrdd yna yn hytrach na “throi nôl at ddadl hanesyddol dros gytundebau canolog.”
Yn ôl yr Undeb, mae’r Scarlets wedi ceisio gwerthu George North i dimau yn Ffrainc, heb roi gwybod i’r chwaraewr.
Roedd y cyhuddiad wedi codi gwrychyn y rhanbarthau a mynegodd y Scarlets eu “syndod” a’u “siom” fod yr undeb wedi trafod chwaraewr yn gyhoeddus.