Wrecsam 2–1 Mansfield
Mae gobeithion main Wrecsam o orffen ar frig tabl Uwch Gynghrair y Blue Square yn fyw o hyd wedi iddynt ddod yn ôl i guro Mansfield ar y Cae Ras nos Iau.
Byddai buddugoliaeth wedi codi Mansfield i’r brig ac roedd hynny’n ymddangos yn debygol pan sgoriodd Matt Green i’r ymwelwyr toc wedi’r egwyl. Ond rhwydodd Dean Keates a Danny Wright wrth i’r Dreigiau daro’n ôl i gipio’r tri phwynt a chadw’r pwysau ar y ddau uchaf.
Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr fe fywiogodd pethau wedi’r egwyl. Daeth Luke Jones o hyd i Green yn y cwrt cosbi a rhwydodd yntau’r gôl agoriadol.
Roedd y tîm cartref yn gyfartal chwarter awr yn ddiweddarach pan sgoriodd Keates gic rydd o bellter ar ôl cael ei lorio gan Adam Chapman.
A chipiodd Wright y fuddugoliaeth ddeuddeg munud o’r diwedd gyda gôl i’r gornel isaf wedi i Glen Little ddod o hyd iddo yn y cwrt cosbi.
Mae’r canlyniad yn codi Wrecsam dros Gasnewydd i’r trydydd safle ac yn cau’r bwlch ar Mansfield yn yr ail safle i saith pwynt. Kidderminster sydd ar y brig o hyd ond maent wedi chwarae dwy gêm yn fwy.
.
Wrecsam
Tîm: Maxwell, S. Wright, Riley, Westwood (Walker 21′), Cieslewicz (Little 77′), Harris, Keates, Clarke, Hunt, D. Wright, Ormerod (Adebola 66′)
Goliau: Keates 68’, D. Wright 78’
Cerdyn Melyn: Riley 25’
.
Mansfield
Tîm: Marriott, Dempster, Jones, Beevers, Taylor, Howell, Murray, Chapman (Rhead 82′), Daniel (Briscoe 77′), Meikle, Green
Gôl: Green 53’
Cardiau Melyn: Meikle 37’, Beevers 43’, Dempster 54’
.
Torf: 4,378