Michael Laudrup
Mae rheolwr Abertawe, Michael Laudrup yn gobeithio y bydd yr amddiffynwyr Angel Rangel a Chico Flores yn cael eu cynnwys yn y gêm yn erbyn Norwich dydd Sul.

Herciodd Flores allan o’r gêm yn erbyn Tottenham Hotspur gydag anaf i’w figwrn ond collodd Rangel y gêm oherwydd anaf i’w goes.

Ond mae’r Sbaenwyr wedi dychwelyd i ymarfer gan obeithio cael eu dewis i’r gêm i herio Norwich yn Carrow Road.

‘‘Bydd yn gêm anodd ac yn gorfforol.  0nd rydym am fynd yno gan ddisgwyl ddod oddi yno â phwynt o leiaf.  Rydym wedi colli’r tair gêm ddiwethaf, ond gallen ni o leiaf wedi cael tair gêm gyfartal,’’ meddai Laudrup.