Y ty lle bu farw chwech o blant Mick Philpott mewn tân y llynedd (llun PA)
Mae Mick Philpott wedi ei ddedfrydu i oes yn y carchar am ladd chwech o’i blant mewn tân yn Derby.

Dywedodd y barnwr, Mrs Ustus Thurlwall, mai Philpott oedd prif ddihiryn y cynllwyn fis Mai y llynedd ac y dylai dreulio o leiaf 15 mlynedd yn y carchar.

Wrth annerch Mick Philpott dywedodd y barnwr ei fod yn ddyn peryglus iawn a oedd yn “brin o foesau.”

Mae gwraig Mick Philpott, Mairead, a ffrind iddyn nhw, Paul Mosley, wedi cael dedfryd o 17 mlynedd yr un am ladd y plant yn anghyfreithlon.

Wrth glywed y dedfrydau yn Llys y Goron Nottongham edrychod Mick Philpott i’r llawr, gan sychu ei ddagrau. Wylodd Mairead Philpott, tra eisteddodd Paul Mosley yn ddi-emosiwn.

Roedd y plant, oedd yn amrywio mewn oedran o bump i 10 oed, wedi marw ar ôl i betrol gael ei arllwys ar waelod grisiau’r tŷ tra oedden nhw’n cysgu yn y llofft.