Lance Armstrong - troi at nofio
Mae’r seiclwr gafodd ei wahardd am oes am gymryd cyffuriau yn ystod ei yrfa yn dychwelyd i fyd y campau y penwythnos hwn – fel nofiwr.

Derbyniodd y gŵr o Austin, Texas, waharddiad rhag cystadlu gan Asiantaeth Gwrth-Gyffuriau’r UDA ac Asiantaeth Gwrth-Gyffuriau’r Byd.

Collodd y seiclwr ei holl fedalau Tour de France yn dilyn y gwaharddiad.

Ond mae’r gystadleuaeth hon, sy’n cael ei chynnal yn y brifysgol yn nhref ei febyd, y tu allan i reolaeth y ddwy asiantaeth, ac felly does dim cyfyngiadau arni.

Mae disgwyl i’r gŵr 41 oed gystadlu dros 500 llath, 1,000 o lathenni a 1,650 o lathenni, ac fe fydd e’n rasio yn erbyn pobol sydd, ar y cyfan, yn hŷn nag ef.

Dywedodd llefarydd ar ran y gystadleuaeth nad oes unrhyw gwynion wedi bod am hawl Armstrong i gystadlu.