Andrew Bishop yw’r degfed chwaraewr o ranbarth y Gweilch i arwyddo cytundeb newydd a fydd yn ei gadw gyda’r rhanbarth hyd at 2016.
Ar ôl gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r Gweilch yn erbyn y Gororau yn 19 oed ym mis Chwefror 2005, mae Bishop wedi bod yn enw gyson yn nhîm y Gweilch.
‘‘Rwyf wrth fy modd gyda’r cytundeb newydd. Mae’n newyddion gwych, roeddwn eisiau aros gyda’r Gweilch,’’ meddai Bishop.
‘‘Mae yna garfan dda iawn yma, ac mae’r gystadleuaeth am safleoedd yn uchel dros ben,’’ ychwanegodd.