Fe fydd newyddiadurwyr a staff eraill y BBC yn cynnal streic yfory dros anghydfod ynglŷn â swyddi, pwysau gwaith a honiadau o fwlio.

Mae’r streic yn debygol o amharu ar raglenni radio a theledu.

Fe fydd aelodau Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) ac undeb y technegwyr Bectu yn cynnal streic 12 awr o hanner dydd yfory, ac yna’n gweithio i reol.

Dywed yr undebau y bydd y streic yn effeithio rhaglenni Gŵyl y Banc yn ogystal â bwletinau newyddion.

Mae’r undebau’n protestio yn erbyn y rhaglen  Gosod Safon yn Gyntaf (DQF) a fydd yn arwain at 2,000 o swyddi’n cael eu colli.