Jimmy Savile
Ni fydd unrhyw gamau yn cael eu cymryd yn erbyn dyn a gafodd ei arestio gan dditectifs sy’n ymchwilio i helynt cam-drin Jimmy Savile.
Fe gyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron heddiw nad oedd digon o dystiolaeth i gyhuddo’r dyn, sydd yn ei 70au, a gafodd ei arestio yn Sir Caergrawnt ar 11 Tachwedd y llynedd.
Mae’n un o 11 o bobl sydd wedi cael eu harestio fel rhan o Operation Yewtree, yr ymchwiliad cenedlaethol gafodd ei lansio yn sgil honiadau a ddaeth i’r amlwg yn erbyn y cyn-gyflwynydd teledu Savile.
Dywedodd Alison Saunders o Wasanaeth Erlyn y Goron fod y person oedd wedi gwneud y cwyn wedi penderfynu nad oedd hi am fwrw mlaen gyda’r achos gan mai hi fyddai’r unig un yn rhoi tystiolaeth yn yr achos yma.
Ond mae hi wedi mynnu bod yr honiadau yn wir, a hefyd wedi dweud y bydd hi’n cefnogi unrhyw bobl eraill a all roi gwybodaeth yn ymwneud a’r un person, meddai Alison Saunders.
“Fe wnaethon ni edrych ar y posibilrwydd o barhau gyda’r achos heb y dystiolaeth gan yr achwynydd ond rydym wedi dod i’r casgliad nad oedd digon o dystiolaeth i sicrhau dedfryd,” meddai.
Ychwanegodd bod y dyn sydd wedi cael ei amau wedi mynnu ei fod yn ddieuog drwy gydol yr ymchwiliad.