Dai Smith, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru
Mae chwe aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru wedi cael eu hail-benodi ar ôl i’w tymor ddod i ben ar Fawrth 31.

Maen nhw wedi cytuno i wasanaethu am dymor arall, sy’n ymestyn tan Fawrth 31 2016. Y chwech yw Dr John Geraint, Osi Rhys Osmond, Alan Watkin, Richard Turner, yr Athro Gerwyn Wiliams a John Carey Williams.

Mae’r swyddi’n rhai di-dâl ar hyn o bryd ac mae disgwyl i’r aelodau fynychu 10 cyfarfod y flwyddyn.

Cadeirydd y Cyngor yw Dai Smith a’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth sy’n penodi’r aelodau.

Prif noddwr Cyngor Celfyddydau Cymru yw Llywodraeth Cymru ac mae’r corff yn dosbarthu arian y Loteri Genedlaethol i gelfyddyd yng Nghymru.

Pwy ydyn nhw?

Dr John Geraint – Cyfarwyddwr Creadigol Green Bay Media.

Osi Rhys Osmond – Darlithydd mewn Llunio, Peintio a Hanes Celf yng Ngholeg Celf a Dylunio Prifysgol Fetropolitan Abertawe.

Richard Turner – Rheolwr Prosiect Canolfan Fenter ac Arloesi mewn Addysg, Academi Fyd-eang Prifysgol Cymru.

Alan Watkin – Is Gadeirydd Bwrdd Theatr Clwyd.

John Carey Williams – Cynhyrchydd gyda Theatr Iolo.

Yr Athro Gerwyn Wiliams – Athro ym Mhrifysgol Bangor.