George Osborne
Wrth i Aelodau Seneddol ddechrau edrych ar lo mân y Gyllideb gafodd ei gyhoeddi ddoe mae George Osborne wedi dweud y gallai’r economi fod “lot gwaeth” gan gyfeirio at drafferthion ariannol Cyprus.

Ar raglen Daybreak y bore ma ar ITV dywedodd y Canghellor fod y wlad wedi gwneud “llawer o gamgymeriadau dros flynyddoedd lawer yn adeiladu dyledion” ond ei fod am fynd i’r afael â nhw.

Mae papur y Guardian wedi disgrifio’i Gyllideb ddoe fel “un i blesio’r bobol” er mwyn ceisio denu pleidleiswyr mewn seddi ymylol. Mae gyrwyr, yfwyr cwrw a’r rheiny sydd eisiau prynu tŷ ar eu hennill, a does dim sôn eleni am drethi ar bastai, carafanau a neiniau.

Mae pôl piniwn gan grŵp defnyddwyr Which? yn awgrymu fod 89% o bleidleiswyr yn cefnogi codi’r trothwy treth i £10,000 a 87% yn cefnogi canslo’r cynnydd mewn treth ar danwydd.

Ond mae pobol yn llai gobeithiol am yr economi yn gyffredinol ac mae 44% o bleidleiswyr ymchwil Which? yn disgwyl i’w sefyllfa ariannol bersonol waethygu dros y flwyddyn nesaf.

Dyled y wlad

Roedd Ed Miliband wedi galw George Osborne yn “ganghellor israddedig,” gan gyfeirio at Brydain yn colli ei statws credyd A driphlyg fis diwethaf, a dywedodd ei fod yn cynnig “mwy o fenthyg a llai o dwf.”

Mae George Osborne wedi cydnabod fod disgwyl i’r economi dyfu  0.6% yn unig eleni, gan hanneru ei ragolygon o gynnydd o 1.2%.

Ac mae Prydain ar ei hôl hi o ran delio gyda dyled y wlad. Nid oes disgwyl i’r ddyled ostwng fel cyfran o’r incwm cenedlaethol tan 2017, ddwy flynedd yn hwyrach na tharged gwreiddiol George Osborne. Erbyn hynny bydd yn cyfateb ag 85.6% o’r GDP, neu £1.58 triliwn.

Cymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £104m yn ychwanegol y flwyddyn nesaf yn sgil penderfyniadau gwario cyfalaf y Gyllideb.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod y Gyllideb yn “siomedig” ac y bydd yn rhaid iddyn nhw wneud arbedion diolch i gwtogi cyllid refeniw Llywodraeth Cymru.

Roedd Carwyn Jones wedi galw ar George Osborne i fenthyg mwy er mwyn rhoi sbardun i’r economi, ond cyhuddodd Andrew RT Davies ef o ymhél ag “economeg y casino.”