Roedd Prydain ac America wedi goresgyn Irac yn 2003 ar gefn cudd-wybodaeth oedd yn cyd-fynd â’i rhagfarn nhw, yn ol rhaglen ddogfen heno.
Mae’n ddeng mlynedd ers i luoedd Prydain a’r Unol Daleithiau fynd mewn i Irac er mwyn dymchwel Saddam Hussein, ac yn ôl tystiolaeth ar raglen Panorama’r BBC heno roedd y goresgyniad yn seiliedig ar ddewis nid anghenraid.
Parodd y rhyfel am gyfnod o chwe blynedd a bu farw 100,000 o drigolion Irac a 179 o filwyr Prydain, a chostiodd dros £9 biliwn. Tynnodd Prydain allan o’r wlad yn 2009 ond mae cwestiynau’n parhau am hawl Prydain i fod yno yn y lle cyntaf.
Defnyddio cudd-wybodaeth
Mae rhaglen Panorama heno – The Spies Who Fooled The World – yn clywed bod honiadau gan ddyrnaid o ffynonellau, fod gan Irac arfau ar gyfer dinistr eang, wedi eu chwyddo i fod yn gudd-wybodaeth ddibynadwy oedd yn cyfiawnhau rhyfel.
Roedd yr Almaen wedi rhybuddio swyddogion yr Unol Daleithiau nad oedd honiad penodol fod Irac yn cynhyrchu arfau cemegol yn ddibynadwy, ond yn ôl cyn-weinidog tramor yr Almaen, Joschka Fischer, “nid oedden nhw mewn stad o feddwl i dderbyn rhybudd.”
Ar y rhaglen mae cyn-bennaeth gwasanaeth cudd Ffrainc, Pierre Brochand, yn honni fod “cudd-wybodaeth yn cael ei defnyddio er mwyn cyfiawnhau rhyfel, a oedd yn rhyfel o ddewis yn unig.”
“Ond roedd y gudd-wybodaeth yn cael ei defnyddio i guddio’r rhyfel fel un o anghenraid.”
Yn ôl y rhaglen roedd Tony Blair yn rhy brysur i gael ei gyfweld a dywedodd cyn-bennaeth MI6, Sir Richard Dearlove, nad oedd yn medru gwneud sylw cyn cyhoeddi casgliadau Archwiliad Chilcot, sy’n edrych ar resymau Prydain dros fynd i Irac.