Mae’r dyn sy’n arwain Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn edrych ar ddyfodol y Steddfod, fydd yn adrodd i Lywodraeth Cymru, yn dweud nad oes unrhyw benderfyniadau terfynol wedi eu gwneud hyd yma.

Bu son a dadlau am y syniad o gael lleoliadau parhaol i’r Steddfod bob dwy flynedd, yn lle’r drefn bresennol o deithio i bob cwr o Gymru.

Ond mae Roy Noble wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg yr wythnos hon nad oes unrhyw beth wedi ei benderfynu hyd yn hyn, a bod gan bobol ddeufis arall i gyflwyno tystiolaeth i’r ymgynghoriad.

“Mae pawb yn eithaf relaxed am y ffordd ymlaen,” meddai’r darlledwr profiadol fu’n bennaeth ysgol gynradd hefyd.

“Dw i ddim yn credu bod dim byd wedi’i osod lawr mewn sment, o gwbl.

“Mae’n fraint fawr i rywun fel fi, sydd ddim yn draddodiadol o faes yr Eisteddfod, allech chi ’weud. Ond dw i wedi’i chefnogi, bob cam.”

Dywed y bydd ei gefndir darlledu Saesneg i Radio Wales o fudd wrth geisio denu pobol o’r byd hwnnw i’r Eisteddfod ac i’w deall yn well.

Mae’n gwadu bod unrhyw ddrwgdeimlad wedi codi rhwng yr Eisteddfod a’r grŵp.

“Ambell waith, mae yna bethau yn y papur. Ond nagw i wedi clywed dim byd. Dw i ddim wedi dod ar draws y drwgdeimlad yn unman.”

Y cyfweliad yn llawn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.