Mae disgwyl y bydd Cymru’n cael ei hystyried yn rhanbarth ar wahân ar gyfer y sianel deledu annibynnol, ITV.
Fe fyddai hynny’n golygu torri’r cysylltiad traddodiadol gyda De-orllewin Lloegr a sicrhau fod modd gosod amodau ar wahân wrth roi’r drwydded ar gyfer Cymru.
Mae Golwg360 yn deall fod cwmni ITV yn fodlon derbyn y newid sy’n rhan o ymgynghoriad gan y corff arolygu, Ofcom.
Fe gadarnhaodd un o uchel swyddogion y cwmni nad oedden nhw am wrthwynebu a hynny’n golygu na fydd rhaid iddyn nhw wynebu cystadleuaeth ar gyfer y cyfnod nesa’ – mae’r trwyddedau presennol yn dod i ben yn 2014.
‘Angenrheidiol’ meddai AC
Mae’r AC Llafur, Keith Davies, wedi galw am newid o’r fath, gan ddweud ei fod yn angenrheidiol i sicrhau fod digon o raglenni Cymreig yn cael eu gwneud.
“Yng ngoleuni datganoli, mae’n hanfodol bod ystod eang o raglenni perthnasol i Gymru ar gael,” meddai.
“Mae hyn ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg gydag S4C, ac rwy’n credu y dylai fod ar gael i wylwyr Saesneg eu hiaith yn ogystal – gall hynny ddigwydd trwy greu trwydded ar wahân i Gymru.”