Mont Blanc
Daeth gwasanaethau brys o hyd i gyrff tad a mab yn y mynyddoedd ger Chamonix yn Ffrainc y bore yma(Sul).
Roedd y tad wedi galw’r gwasanaethau ar ôl i’w fab syrthio cannoedd o droedfeddi oddi ar lwybr tra’n cerdded yn yr Alpau efo’i dad.
Mae’n ymddangos bod y tad hefyd wedi syrthio i lawr y dibyn tra’n ceisio achub ei fab.
Ar eu gwyliau
Roedd y ddau yn cerdded llwybr o’r enw Le Couloir des Bossons ger Mont Blanc – mynydd uchaf Ffrainc.
Mae’r llwybr troed yma yn boblogaidd iawn yn yr haf, ond yn tu hwnt o beryglus yn y gaeaf.
Dyw’r awdurdodau ddim wedi enwi’r ddau hyd yma ond credir eu bod yn dod o Swydd Buckingham yn Lloegr.