Senedd yr Alban
Disgwylir i ddyddiad y refferendwm ar annibynniaeth i’r Alban gael ei gyhoeddi yn Senedd y wlad dydd Iau nesaf.

Mae’ r Prif Weinidog Alex Salmond yn debygol o gyhoeddi’r dyddiad mewn datganiad ffurfiol ond eisoes mae pawb yn gwybod mai rhywbryd yn ystod tymor yr hydref 2014 y bydd y refferendwm yn digwydd.

Yn y cyfamser mae gwleidyddion ar Ynysoedd y Gogledd wedi ail- godi’r posibilrwydd o gael rhagor o rym gwleidyddol er mwyn gwneud yn fawr o’r olew a nwy sydd o dan y môr oddi ar arfordiroedd Orkney a Shetland.

Buasai colli’r refeniw sy’n dod o’r cyflenwadau yma yn effeithio ar gynlluniau economaidd yr SNP petae’r Alban yn annibynnol.

Tebyg i Ynys Manaw

Fe wnaeth Cyngor Ynysoedd y Shetland gynnal seminar yr wythnos diwethaf i ystyried opsiynau am newid cyfansoddiadol ac un opsiwn drafodwyd oedd sefydlu trefn tebyg i’r hyn sydd ar Ynys Manaw, sydd gan hunan-reolaeth gyda’i senedd ei hun y tu allan i dren y DU.

Dros y Sul hefyd mae aelod Shetland yn Senedd yr Alban wedi dweud “ei bod yn bryd manteisio ar y cyfle gaiff ei gynnig gan annibynniaeth.”

Roedd Tavish Scott yn annerch cynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Dundee. Rhybuddiodd Alex Salmond mai “ni biau’r olew Alex – nid chi.”

Fe wnaeth y blaid cenfogi’n unfrydol cynnig gan Aelod Senedd yr Alban dros Orkney, Liam McArthur, y dylai’r ynysoedd gael yr hawl i benderfynu eu dyfodol gwleidyddol.

Sefydlwyd mudiad traws bleidiol ar yr ynysoedd yn yr wythdegau yn galw am ragor o rym i’r trigolion yno.

Mewn ymateb i hyn oll dywedodd llefarydd ar ran yr SNP bod “Shetland ac Orkney yn rhannau pwysig a gwerthfawr o’r Alban ac fe fydd hynny’n parhau wedi annibynniaeth. Mae’r SNP wastad wedi bod o blaid rhagor o rym i Ynysoedd y Gogledd oddi mewn i Alban anibynnol.”

“Rydym yn hyderus y bydd Orkney a Shetland yn pleidleisio o blaid annibynniaeth i’r Alban ynghyd â gweddill y wlad yn hydref 2014.”