Mae Llafur yn ôl wrth y llyw yng Nghynghor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Y Cynghorydd Brent Carter gafodd ei ethol yn arweinydd newydd ddoe (dydd Mercher, Medi 18), sy’n golygu bod Llafur yn olynu’r weinyddiaeth Annibynnol, oedd wedi bod yn rhedeg yr awdurdod ers 2017.

Daw hyn ar ôl i’r Cynghorydd Geraint Thomas gamu o’r neilltu yr wythnos ddiwethaf yn dilyn buddugoliaeth mewn is-etholiad i Lafur ym Meddllwynog a Threlewis, gyda dau gynghorydd Annibynnol hefyd yn gadael er mwyn ffurfio’u grŵp eu hunain.

Mae’n golygu fod gan Lafur 14 o gynghorwyr bellach, ac mae gan y prif grŵp Annibynnol unarddeg, tra bod dau aelod Annibynnol Cymunedol ar gyfer Dowlais a Phant a thri chynghorydd Annibynnol.

Bydd y Cabinet newydd yn cynnwys:

  • Y Cynghorydd David Jones (dirprwy arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogol)
  • Y Cynghorydd Gareth Lewis (Aelod Cabinet dros Addysg)
  • Y Cynghorydd Louise Minett-Vokes (Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol)
  • Y Cynghorydd Anna Williams-Price (Aelod Cabinet dros Lywodraethiant ac Adnoddau)
  • Y Cynghorydd Jamie Scriven (Aelod Cabinet dros Adfywio, Tai a Gwarchod y Cyhoedd)

Gweinyddiaeth ac arweinyddiaeth newydd

“Heno, rydyn ni yma i dystio i newid gweinyddiaeth a chyflwyno newid dull arweinyddiaeth,” meddai’r Cynghorydd Brent Carter, sy’n cynrychioli ward Plymouth, yn y cyfarfod ddoe (dydd Mercher, Medi 18).

“Un fydd, gobeithio, yn wydn ac yn ddeinamig, fydd yn trawsnewid yr awdurdod i fod yn sefydliad addas at y diben sy’n barod am yr heriau sydd o’n blaenau.

“Fel gweinyddiaeth, rhaid i ni fod yn realistig, yn onest ac yn bennaf oll yn dryloyw.

“Byddwn ni’n weithgar wrth wrando ar farn pobol, tra byddwn ni’n agored am y dewisiadau anodd y gallen ni fod yn eu hwynebu.

“Rydym yn ystyried hyn yn allweddol i ateb yr heriau ariannol rydyn ni’n gwybod sy’n aros amdanom yn y dyfodol.

“Dw i’n hynod ymwybodol fod angen i’r sefydliad newid yn nhermau ei strwythur ac wrth gyflwyno gwasanaethau allweddol.

“Bydd hon yn un o’n blaenoriaethau cychwynnol gan fod hyn yn allweddol wrth sicrhau cynaliadwyedd hirdymor yr awdurdod.

“Dw i eisiau cynnal y cydweithrediad o fewn siambr y Cyngor, ochr yn ochr â grwpiau cymunedol a’n partneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

“Mae hyn yn hanfodol er mwyn helpu achos Merthyr Tudful wrth ddarparu’r dechrau gorau mewn bywyd i’n pobol ifanc, ar gyfer economi gryfach a gwasanaethau trafnidiaeth gwell, i ddarparu cartrefi i bobol, i gyflwyno cymunedau diogel a mwy glân, ac i ddaparu’r gofal gorau mae dirfawr ei angen ar bobol.

“Fel gweinyddiaeth, er mwyn i ni fod yn llwyddiannus yn hyn oll, byddwn yn sicrhau bod adeiladu partneriaethau a chyfathrebu’n effeithiol wrth galon popeth rydym yn ei wneud.

“Bydd angen i ni gydweithio er mwyn sicrhau bod Merthyr Tudful yn cyflawni pethau mawr, ac yn bennaf oll ein bod ni fel awdurdod yn cyflawni ar ran pobol yn ein tref annwyl.

“I fi, rhywbeth sy’n rhaid i ni ei wneud mwy ohono yw bod yn falch.

“Mae angen i ni fagu ysbryd o falchder a chydnabod amrywiaeth ein cymunedau, dathlu ein holl lwyddiannau fel esiampl ac ysbrydoliaeth i eraill.

“Dw i wedi byw ym Merthyr Tudful drwy gydol fy oes, a gallaf ddweud yn onest na fyddwn i eisiau byw yn unman arall.

“Dw i’n eithriadol o falch o’n tref, a gallaf ddweud yma heno y byddaf yn ymroi â phopeth sydd gen i er mwyn sicrhau bod gan Ferthyr Tudful lais cryf ar bob llwyfan.”

Uchelfannau ac iselfannau

Dywed y Cynghorydd Brent Carter, fu’n gynghorydd ers 2008, ei fod e wedi profi nifer o uchelfannau ac iselfannau, a’i fod e wedi dychwelyd o’r gwaelodion gyda chymorth ei deulu, ei ffrindiau a’i etholwyr.

Dywed mai dod yn arweinydd y Cyngor yw’r fraint a’r anrhydedd fwyaf y gallai fod wedi eu derbyn.

Diolchodd i’w deulu, pawb oedd wedi ei gefnogi ar y noson, swyddogion y Cyngor a’r Grŵp Llafur, sy’n dweud ei fod yn hynod ddawnus ac ymroddedig.

Fe wnaeth e longyfarch y Cynghorydd Gill Preston ar gael ei hethol ym Meddllwynog a Threlewis, gan ddweud ei fod yn dipyn o gyflawniad gan nad oedden nhw wedi ethol cynghorydd Llafur yno ers ugain mlynedd, a dywedodd y byddai’n gynrychiolydd gwych ar gyfer y ddwy gymuned.

Cafodd y Cynghorydd Brent Carter ei gyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn 2017 ar ôl cael ei ganfod mewn puteindy “wedi’i orchuddio â minlliw” wrth i’r heddlu archwilio eiddo yn Nowlais fis Mai 2015, ond doedd yr Ombwdsmon ddim yn teimlo bod tystiolaeth ei fod e wedi dwyn anfri ar ei swydd na’r Cyngor.

‘Amhosib heb fwyafrif’

Wrth drafod ei reswm dros gamu o’r neilltu, dywed y Cynghorydd Geraint Thomas ei bod hi’n amhosib rhedeg gweinyddiaeth heb fwyafrif mae modd gweithio ag e.

“Bu’n un o anrhydeddau mwyaf fy mywyd cael arwain Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful,” meddai.

“Bu’n gymaint o wobr ag y bu’n anodd, ac mae’n rôl sy’n dod â mwy na’i siâr o heriau, ond i fi mae’n un o’r swyddi gorau yn y byd.

“Dw i’n hynod falch o’r hyn dw i, y Cabinet a’m cyd-Annibynwyr wedi’i gyflawni dros y saith mlynedd diwethaf, a dw i’n cynnig fy niolchgarwch yn llawn i annibynwyr y presennol a’r gorffennol am eu hangerdd, eu gwaith caled a’u cyfeillgarwch.”

Diolchodd hefyd i’r Prif Weithredwr am ei ymroddiad a’r cyngor ac amser mae e wedi’i roi iddo.

Roedd yn llwyr werthfawrogol o’r tîm rheoli corfforaethol am eu hymroddiad ac arweiniad hefyd.

“I’n staff hyfryd i gyd, dw i eisiau cofnodi fy edmygedd llwyr o bopeth rydych chi’n ei wneud dros y Cyngor hwn a’n trigolion,” meddai wedyn.

“I’r weinyddiaeth Lafur sy’n dod i mewn, dw i’n cynnig fy nymuniadau gorau.

“Mae’n fraint cael arwain y Bwrdeistref Sirol hyfryd yma, a dydy e ddim yn gyfrifoldeb bach chwaith.

“Os ga i fod mor hy, mae gennych chi esgidiau annibynnol mawr i’w llenwi.”

Am ei fod yn benodiad Llafur, dywedodd mai’r peth iawn fyddai i’r Grŵp Llafur bleidleisio drosto ac felly y byddai’r Grŵp Annibynnol yn atal eu pleidlais.