Mae dyn 19 oed o Abertawe wedi’i garcharu ar ôl pledio’n euog i droseddau brawychol.

Aeth Alex Hutton gerbron Llys y Goron Winchester yn dilyn ymosodiad ar sail y ffaith fod y ddioeddfwraig yn ddynes drawsryweddol.

Cafodd ei arestio gan Heddlu’r De fis Tachwedd y llynedd, a’i gael yn euog o droseddau o dan y Ddeddf Derfysgaeth, ar ôl iddyn nhw gael gwybod gan aelod o’r cyhoedd fod ganddo fe fideo ar Instagram yn honni iddo gicio unigolyn yn y pen.

Roedd y fideo hefyd yn cynnwys delweddau’n ymwneud â’r asgell dde eithafol.

Mae wedi’i garcharu am bum mlynedd a phedwar mis.

Mae Pennaeth Ymchwiliadau Plismona Gwrth-derfysgaeth Cymru wedi croesawu’r ddedfryd am “ymosodiad erchyll heb bryfociad ar ferch ifanc ddiamddiffyn oedd yn meindio’i busnes ei hun ryw brynhawn mewn parc yn Abertawe fis Mai 2023”.

Dywed y bydd yr ymosodiad yn cael effaith hirdymor arni, a bod y diffynnydd wedi dangos “bwriad clir i ledaenu ei atgasedd ar draws y rhyngrwyd”.

Arweiniodd yr ymchwiliad at gael gwybod am yr ymosodiad, meddai.

Dywed Gwasanaeth Erlyn y Goron fod Alex Hutton “nid yn unig yn ffantasïwr â safbwyntiau eithafol, ond mae hefyd yn ddyn ifanc peryglus”.

Mae’r heddlu wedi croesawu’r ddedfryd am “drosedd gasineb dreisgar ddi-synnwyr”.