David Milliband
Mae arweinydd y Blaid Lafur, David Milliband wedi galw ar aelodau seneddol o bob plaid i “gefnogi y rhai sydd wedi diodde oherwydd eu triniaeth gan y wasg” wrth bleidleisio ar drefn i oruchwylio’r wasg yn Nhŷ’r Cyffredin yfory.

Mae’r Ceidwadwyr, Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cytuno bod angen ymgorfffori pwyllgor i gadw llygad ar y wasg mewn Siarter Brenhinol.

Mae’r Prif Weinidog David Cameron ar y llaw arall yn erbyn ymgorffori’r Siarter yng nghyfraith gwlad.

Mae golygyddion papurau newydd Prydeinig hefyd yn erbyn deddfu ar y mater gan gytuno gyda Mr Cameron y buasai hyn yn amharu ar ryddid y wasg.

Barn Mr Milliband a Mr Clegg yw na fydd gan y Siarter fawr o rym os nad yw’n cael ei ymgorffori yn y gyfraith.

Fe fydd dadl ar y mater yn cael ei chynnal yn San Steffan yfory ac mae Mr Cameron angen cefnogaeth aelodau seneddol o bleidiau eraill er mwyn i’w gynlluniau gario’r dydd.

Fe ddaeth y Prif Weinidog a thrafodaethau traws-bleidiol ar y mater i ben yn sydyn dydd Iau ac mae Mr Milliband a Mr Clegg wedi cyhoeddi cynlluniau ar y cyd ers hynny.

Roedd Mr Milliband yn siarad efo gohebwyr yr Observer a dywedodd bod rhaid i aelodau seneddol dorri efo’r gorffennol wrth bleidleisio a pheidio gweithredu am eu bod ofn cael cyhoeddusrwydd gwael yn y papurau.

Degawdau o fethiant

“Rydym wedi cael degawdau o fethu sicrhau bod gennym drefn o gwynion yn erbyn y wasg sy’n golygu bod pobl gyffredin ddim yn ddibynnol ar fympwy gwasg sydd weithiau yn sarhaus,” meddai.

Bydd y bleidlais yfory yn cael ei chynnal yn dilyn cyhoeddi adroddiad Leveson i foesoldeb y wasg ar ôl i rai newyddiadurwyr hacio ffonau pobl oedd yn llygaid y cyhoedd am wahanol resymau.

Mae ‘Hacked Off’, grŵp sy’n ymgyrchu ar ran pobl fel rhieni Millie Dowler, gafodd ei llofruddio, yn dweud bod y Prif Weinidog wedi “gwerthu ei egwyddorion i’w ffrindiau yn y wasg genedlaethol.”