Amlwch
Lladdwyd dau yn dilyn gwrthdrawiad rhwng gyrrwr beic modur a cherddwr ger Amlwch brynhawn ddoe.
Digwyddodd y ddamwain ar yr A5025 ac fe fu’r ffordd ar gau am rai oriau wrth i’r heddlu ymchwilio i’r hyn ddigwyddodd.
Mae nhw wedi gofyn i dystion gysylltu efo nhw trwy ffonio 101 ond does yna ddim rhagor o fanylion wedi cael eu rhyddhau hyd yma.