Mae heddlu yng nghanolbarth India wedi arestio pump o ddynion ac yn chwilio am un arall ar ôl i ddynes o’r Swisdir gael ei threisio tra ar wyliau beicio efo’i gŵr.

Dywedodd Prif Swyddog yr Heddlu yn ardal Datia, D.K. Arya, bod y ddynes yn amau iddi gael ei threisio sawl gwaith gan saith neu wyth o ddynion ond gan ei bod yn dywyll roedd yn anodd dweud faint yn union oedd yn gyfrifol.

Digwyddodd yr ymosodiad yma dri mis wedi i ddynes gael ei threisio a’i lladd ar fws yn Delhi Newydd.

Fe wnaeth hynny sbarduno’r llywodraeth i ddeddfu er mwyn cynnig gwell gwarchodaeth i ferched yn y wlad.

Ar eu ffordd i weld y Taj Mahal

Roedd y gŵr a’r wraig ar wyliau tri mis yn India ac ar eu ffordd i Agra i weld y Taj Mahal pan ddigwyddodd yr ymosodiad.

Roeddyn nhw wedi codi pabell mewn coedwig ger pentref Jatia pan wnaeth criw o ddynion ymosod arnyn nhw efo ffyn.

Cafodd y gŵr ei guro a’i glymu i goeden cyn i’r dynion dreisio ei wraig.

Dywedodd llysgennad y Swisdir i’r India, Linus Von Castelmur, mai iechyd a thriniaeth i’r pâr oedd y flaenoriaeth ar hyn o bryd ond ei fod yn gobeithio gweld ymchwiliad cyfiawn a sydyn i’r hyn ddigwyddodd.