Mae’r heddlu yng Nghaerdydd yn holi dyn 53 oed ar amheuaeth o lofruddio dyn 24 oed fu farw o anafiadau yn Ysbyty’r Brifysgol yn y brifddinas yn ystod oriau mân y bore yma.
Yn ôl Heddlu De Cymru, cafodd y dyn ifanc ei anafu yn ystod digwyddiad yn Cranleigh Rise Llanrhymni ac fe gafodd y gwasanaeathau brys eu galw yno toc wedi un o’r gloch y bore.
Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty ond fe fu farw rai oriau yn ddiweddarach.
Mae’r dyn 53 oed yn cael ei holi yng ngorsaf ganolog yr heddlu yn y brifddinas.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Dorian Lloyd, sy’n arwain yr ymchwiliad, y bydd yr heddlu yn gweithio yn agos efo’r gymuned er mwyn darganfod beth ddigwyddodd.
“Rydw’i eisiau sicrhau’r gymuned bod ymchwiliad llawn ar y gweill a bod dyn 53 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth,” meddai’r Ditectif.
“Rydyn ni’n gofyn i unrhyw un sydd gan unrhyw wybodaeth neu sydd wedi gweld unrhyw beth amheus yn ardal Cranleigh Rise i gysylltu efo Heddlu de Cymru trwy ffonio 101 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.”