Mike Phillips efo Cwpan y Bencampwriaeth (llun David Davies/PA Wire)
Mae hyfforddwr dros dro tîm rygbi Cymru wedi canmol perfformiad y chwaraewyr yn erbyn y Saeson ddoe gan honni fod ad-ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn well canlyniad na hyd yn oed ennill y Gamp Lawn llynedd.

Mewn gêm fythgofiadwy ar Stadiwm y Mileniwm, fe wnaeth Cymru guro Lloegr o 30 i 3.

Roedd Rob Howley ar ben ei ddigon yn dilyn y gêm yn enwedig o gofio bod Cymru wedi colli eu gêm gyntaf yn erbyn Iwerddon.

“Mae hyn yn well na’r Gamp Lawn llynedd. Roeddyn ni’n rhagorol,” meddai Howley. “Mae cyflawni yr hyn yr ydyn ni wedi ei wneud ar ôl yr hyn ddigwyddodd yn ystod y munudau cyntaf yna yn erbyn Iwerddon yn wyrdroad gwych.”

Roedd angen buddugoliaeth o wyth pwynt ar y Cochion i ennill y gystadleuaeth ond fe aeth y tîm cartref ym mhellach na hynny gan roi crasfa go iawn i’r Saeson o 30 i 3. Rheolodd Cymru’r gêm o’r dechrau i’r diwedd ac er mai Alex Cuthbert a gafodd y ceisiau roedd pob un dyn mewn coch yn well na’r ymwelwyr o dros Glawdd Offa.