Cymru 30–3 Lloegr

Cododd Cymru dlws Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dilyn gêm fythgofiadwy yn erbyn Lloegr ar Stadiwm y Mileniwm brynhawn Sadwrn.

Roedd angen buddugoliaeth o wyth pwynt ar y Cochion i ennill y gystadleuaeth ond fe aeth y tîm cartref ym mhellach na hynny gan roi crasfa go iawn i’r Saeson o 30 i 3. Rheolodd Cymru’r gêm o’r dechrau i’r diwedd ac er mai Alex Cuthbert a gafodd y ceisiau roedd pob un dyn mewn coch yn well na’r ymwelwyr o dros Glawdd Offa.

Hanner Cyntaf

Rheolodd Cymru o’r eiliad gyntaf ac fe roddodd blaenwyr Cymru wers go iawn i’r Saeson yn y sgrym ac yn ardal y dacl. Daeth ciciau cosb o ganlyniad a throsodd Leigh Halfpenny ddwy yn yr ugain munud cyntaf.

Hanerodd Owen Farrell y bwlch i Loegr pan ddyfarnwyd cic gosb braidd yn hallt yn erbyn Sam Warburton hanner ffordd trwy’r hanner, ond dim ond Cymru oedd ynddi wedyn.

Enillodd sgrym y Cochion gic gosb arall yn fuan wedyn ac adferodd Halfpenny y chwe phwynt o fantais cyn i Farrell fethu ei ail gynnig yntau cyn yr egwyl.

Ail Hanner

Os oedd Cymru yn dda yn yr hanner cyntaf roeddynt yn well yn yr ail ac fe ddaeth tri phwynt arall o droed Halfpenny yn dilyn cyfnod hir hir o bwyso gan y blaenwyr yn nau ar hugain Lloegr ar ddechrau’r ail gyfnod.

Gyda’r bwlch o wyth wedi ei sefydlu am y tro cyntaf yn y gêm fe newidiodd Cymru i gêr arall a daeth y cais agoriadol toc cyn yr awr. Dwynodd Ken Owens y meddiant yng nghanol y cae a lledwyd y bêl yn gyflym i Cuthbert ar yr asgell, cafwyd ymdrech chwerthinllyd i’w daclo ef gan Mike Brown a chroesodd y cawr yn y gornel.

Methodd Halfpenny y trosiad ond felly hefyd Farrell yn y pen arall gyda chynnig am gic gosb ar yr awr.

Deg Pwynt Mewn Dau Funud

Yna, sicrhawyd y fuddugoliaeth a’r bencampwriaeth gyda deg pwynt mewn dau funud tua chwarter awr o’r diwedd.

Trodd Dan Biggar y pwysau’n bwyntiau gyda gôl adlam i ddechrau cyn i Cuthbert groesi am ei ail gais. Yr asgellwr yn sgorio eto ond chwaraeodd y rheng ôl i gyd eu rhan. Dechreuodd Toby Faletau y gwaith da cyn i Sam Warburton ennill tir, yna cafwyd rhediad gwych a dwylo da gan Justin Tipuric cyn i Cuthbert groesi.

Trosodd Halfpenny cyn i Biggar ychwanegu tri phwynt arall yn y deg munud olaf i sicrhau buddugoliaeth o saith pwynt ar hugain, buddugoliaeth fwyaf Cymru dros Loegr erioed!

Ond yn bwysicach na hynny, buddugoliaeth sydd yn sicrhau pencampwriaeth y Chwe Gwlad i Gymru am yr ail flwyddyn yn olynol.

Ymateb

Mike Phillips:

“Ymdrech arbennig gan y bois heddi’. Ma’n neis maeddu Lloegr. Roedden ni’n gwylio’u gêm nhw yn erbyn yr Eidal ac yn teimlo eu bod nhw yn dangos diffyg parch, ac roedden ni’n gwybod bod yr Eidal yn dîm da…”

“Mae lot o bwysau ar y bois a dyw rhai pobl ddim yn sylweddoli pa mor anodd yw hi. Ry’n ni wedi bod yn anlwcus iawn ond ry’n ni gyd yn rhoi 100% pan ni ar y ca’.”

Stuart Lancaster, prif hyfforddwr Lloegr:

“Fe chwaraeodd Cymru’n dda a wnaethom ni ddim. Wnaethom ni ddim efelychu eu hymdrech gorfforol nhw. Mae hi’n gêm syml yn y bôn ac roedden nhw’n fwy corfforol na ni.”

.

Cymru

Ceisiau: Alex Cuthbert 57’, 66’

Trosiad: Leigh Halfpenny 68’

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 11’, 18’, 24’, 52’, Dan Biggar 71’

Gôl Adlam: Dan Biggar 65’

.

Lloegr

Cic Gosb: Farrell 24’