Abertawe 0–2 Arsenal

Sgoriodd Arsenal ddwywaith yn yr ugain munud olaf wrth guro Abertawe yn yr Uwch Gynghrair ar Stadiwm Liberty brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Nacho Moneral ychydig dros chwarter awr o’r diwedd cyn i Yao Gervinho sicrhau’r tri phwynt i’r ymwelwyr yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Arsenal a gafodd y cyfle cyntaf ond tarodd ergyd dda Alex Oxlade-Chamberlain o ongl dynn yn erbyn y trawst.

Daeth Miguel Michu yn agos yn y pen arall ar ôl troi yn gelfydd yn y cwrt cosbi ond crafodd ei gynnig yntau heibio’r postyn.

Gorfododd Santi Cazorla arbediad gan Michel Vorm ar ddechrau’r ail hanner ond roedd gôl-geidwad Abertawe braidd yn siomedig pan roddodd Monreal yr ymwelwyr ar y blaen gydag ergyd ddigon blêr i gornel isaf y rhwyd chwarter awr o’r diwedd.

Ac wrth i’r Elyrch bwyso am gôl yn yr eiliadau olaf fe wrthymosododd Arsenal i sgorio ail. Daeth Aaron Ramsey o hyd i Gervinho yn rhydd a llithrodd yntau’r bêl o dan Vorm i sicrhau’r tri phwynt.

Mae Abertawe yn aros yn nawfed yn y tabl er gwaethaf y canlyniad. Mae ganddynt ddeugain pwynt gydag wyth gêm ar ôl.

.

Abertawe

Tîm: Vorm, Williams, Monk, Rangel, Davies, Britton, Michu, Pablo, Dyer (Moore 76′), De Guzman, Ki Sung-Yeung (Routledge 66′)

Cerdyn Melyn: De Guzman 26’

.

Arsenal

Tîm: Fabianski, Mertesacker, Koscielny, Monreal, Jenkinson, Diaby (Ramsey 71′), Arteta, Walcott (Gibbs 85’), Oxlade-Chamberlain (Gervinho 71′), Cazorla, Giroud

Gôl: Monreael 74’, Gervinho 90’)

Cerdyn Melyn: Arteta 83’

.

Torf: 20,583