Sheffield Wednesday 0–2 Caerdydd

Ymestynnodd Caerdydd eu mantais ar frig y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth dda oddi cartref yn Hilsborough yn erbyn Sheffield Wednesday brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Don Cowie ar drothwy’r egwyl cyn i Matthew Connolly ddyblu’r fantais yn yr ail hanner wrth i’r Adar Gleision ymestyn y bwlch i saith pwynt ar y brig.

Cafwyd hanner cyntaf digon di fflach hyd at gôl Cowie funud o’r diwedd. Methodd Wednesday â chlirio’r bêl o gic gornel a disgynnodd hi i’r Albanwr ar ochr y cwrt cosbi cyn iddo yntau ei hanelu trwy’r dorf i gefn y rhwyd.

Roedd y tîm cartref, o dan reolaeth cyn reolwr Caerdydd, Dave Jones, yn siomedig iawn ac er nad oedd yr Adar Gleision fawr gwell fe aethant ym mhellach ar y blaen hanner ffordd trwy’r ail hanner pan beniodd Connolly gic rydd Peter Wittningham heibio i Chris Kirkland yn y gôl.

Roedd dwy gôl yn ddigon i Gaerdydd i sicrhau’r tri phwynt. Ac mae’r fuddugoliaeth honno, ynghyd â buddugoliaethau Barnsley a Nottingham Forest yn erbyn Watford a Hull, yn ymestyn y bwlch ar y brig i saith.

.

Sheffield Wednesday

Tîm: Kirkland, Buxton, R. Johnson, Gardner, Llera, Antonio (Maguire 77′), Helan (J. Johnson 68′), Pugh (Madine 56′), Lee, Prutton, Lita

Cardiau Melyn: Prutton 37’, Gardner 43’, J. Johnson 90’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Taylor, Connolly, Barnett, Nugent, Whittingham, Cowie, Gunnarsson, Helguson (Gestede 87’), Campbell, Bellamy (Smith 81’)

Goliau: Cowie 45’, Connolly 65’

Cardiau Melyn: Bellamy 78’ Helguson 86’

.

Torf: 24,191