Wrecsam 0–0 Luton

Collodd Wrecsam y cyfle i ddychwelyd i frig Uwch Gynghrair y Blue Square gyda gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Luton ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Cododd Mansfield i frig y Gyngres gyda buddugoliaeth yn Forest Green nos Wener ond byddai buddugoliaeth wedi rhoi’r Dreigiau yn ôl ar y brig heddiw. Ond nid felly oedd hi fod wrth i Luton – y tîm sydd wedi torri calonnau’r Cymry yn y gemau ail gyfle yn y ddau dymor diwethaf – ddal eu gafael ar bwynt.

Cafodd cynnigion Dele Adebola a Martin Riley eu clirio oddi ar y llinell yn yr hanner cyntaf a bu rhaid i gôl-geidwad Luton, Mark Tyler, fod ar ei orau i atal Brett Ormerod.

Parhau i bwyso a wnaeth y Dreigiau wedi’r egwyl ond aros yn ddi sgôr wnaeth hi tan y diwedd gyda Stephen Wright yn methu’r cyfle gorau’r ail gyfnod trwy benio heibio’r postyn.

Mae Wrecsam felly ddau bwynt y tu ôl i Mansfield ar y brig ond mae’r ddau dîm yn herio’i gilydd ar y Cae Ras nos Fawrth.

Cafodd gêm Casnewydd gartref yn erbyn Macclesfield ei gohirio oherwydd glaw.

.

Wrecsam

Tîm: Maxwell, Wright, Riley, Westwood, Harris, Clarke (Cieslewicz 79′), Hunt, Thornton, Wright, Ormerod (Little 73′), Adebola

.

Luton

Tîm: Tyler, Rowe-Turner, McNulty, Howells, Ainge, Goodman, Mendy, Martin, Smith, Rendell (Taiwo 63′), Wall (Walker 63′)

Cardiau Melyn: Rendell 27’, Mendy 60’, Ainge 82’

.

Torf: 3,907