Y Seintiau Newydd 6–0 Bangor

Mae hi’n ymddangos fod teitl Uwch Gynghrair Cymru yn aros ar Neuadd y Parc am dymor arall wedi buddugoliaeth gartref swmpus i’r pencampwyr yn erbyn Bangor o flaen camerâu Sgorio brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd y Seintiau dair ym mhob hanner mewn perfformiad gwych, tair i Alex Darlington, dwy i Michael Wilde ac un i’r eilydd hwyr, Matty Williams.

Hanner Cyntaf

Roedd Bangor yn ddigon cystadleuol yn y pum munud ar hugain agoriadol er mai ychydig iawn o gyfleoedd a grëwyd gan y ddau dîm.

Ond deffrodd y Seintiau wedi hynny gan lwyr reoli ugain munud olaf yr hanner a daeth y gôl agoriadol i’r tîm cartref wedi 27 munud. A thipyn o gôl oedd hi hefyd wrth i Ryan Fraughan ac Aeron Edwards gyfuno’n berffaith i greu gôl daclus i Wilde.

Bu bron i Fraughan ei hunan ddyblu’r fantais yn fuan wedyn gyda chynnig haerllug o 30 llath ond er iddo ei chodi dros Lee Idzi daeth y trawst i achub gôl-geidwad Bangor.

Ond doedd dim y gallai Idzi ei wneud i atal ail gôl i Wilde toc wedi’r hanner awr ac roedd hon yn gôl o safon hefyd. Gwrthymosododd Chris Jones gyda rhediad unigol da cyn canfod Wilde ar ochr y cwrt cosbi ac fe grymanodd yntau’r bêl yn gelfydd i’r gornel uchaf.

Ac roedd hi’n dair ar drothwy’r egwyl diolch i gôl wych arall gan y Seintiau. Gallai Bangor fod wedi atal hon ond gwnaeth Darlington yn ardderchog serch hynny i godi’r bêl dros Idzi o gornel y cwrt cosbi.

Tair i ddim ar yr egwyl felly a thalcen caled iawn yn wynebu’r Dinasyddion.

Ail Hanner

Dim ond y Seintiau oedd ynddi yn yr ail gyfnod a chafodd Wilde gyfle gwych i gwblhau ei hatric yn y munudau agoriadol yn dilyn gwaith creu da Fraughan ond anelodd ei ergyd dros y trawst.

Ond daeth y bedwaredd gôl funud yn ddiweddarach gyda Darlington yn sgorio’i ail – yn llithro’r bêl o dan gorff Idzi wedi i bas Chris Jones hollti amddiffyn yr ymwelwyr.

Cafodd Jones ei hunan gyfle da i sgorio wedi hynny ond aeth ei ergyd wyllt dros y traws a heibio’r postyn.

Roedd hi’n ras rhwng Wilde a Darlington am yr hatric felly a Darlington aeth â hi toc cyn yr awr. Aeron Edwards oedd yn gyfrifol am y gwaith creu y tro hwn cyn i’r ymosodwr osod y bêl yn daclus yn y gornel isaf.

Tynnodd y Seintiau’r droed oddi ar y sbardun wedi hynny ond roedd digon o amser i Williams guro Idzi o’r smotyn yn hwyr yn y gêm yn dilyn trosedd Kris Thomas ar Wilde.

Mae’r fuddugoliaeth fwy neu lai yn sicrhau’r teitl i’r Seintiau unwaith eto gan fod pedwar pwynt ar ddeg bellach yn gwahanu’r ddau dîm ar frig y tabl gyda dim ond pum gêm ar ôl i Fangor.

Ymateb

Seren y gêm, blaenwr y Seintiau, Michael Wilde:

“O’r cefn, roedden ni i gyd yn gwybod beth oedd yn rhaid i ni ei wneud heddiw. A thua’r blaen, rhyngof i a Darlo [Alex Darlington] fe wnaethom yn dda iawn pan gyflwynwyd y cyfleoedd i ni, yn enwedig felly yn yr hanner cyntaf.”

.

Y Seintiau Newydd

Tîm: Harrison, Spender, Baker, K. Edwards, Marriott, Ruscoe (Williams 81’), A. Edwards, Fraughan, Darlington (Mullan 66’), Jones (Draper 75’), Wilde

Goliau: Wilde 27’, 33’, Darlington 45’, 54’, 58’, Williams 84’

Cerdyn Melyn: Baker 11’

.

Bangor

Tîm: Idzi, R. Edwards, Thomas, Johnston, Brownhill, Jones, Mackin (Hoy 63’), Allen, S. Edwards (Booth 63’), Davies, Simm (O’Toole 63’)

Cardiau Melyn: Davies 10’, Thomas 83’

.

Torf: 356