Rasio ceffylau
Mae joci amatur a dorrodd ei wddw yn rasus Cheltenham, mewn cyflwr “sefydlog” yn dilyn llawdriniaeth.
Fe gafodd JT McNamara ei anafu pan gwympodd oddi ar y ceffyl Galaxy Rock ar y ffens cynta’ yn ystod ras Cwpan Her Fulke Walwyn Kim ddydd Iau.
Fe gafodd ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd, ar ôl derbyn triniaeth ar y cwrs rasio gan barafeddygon.
Roedd y joci 37 mlwydd oed yn hollol ymwybodol yn dilyn y cwymp, ond fe gafodd ei roi mewn coma cyn cael ei gludo i ysbyty Frenchay ym Mryste.
Fe gafodd lawdriniaeth ar vertebrae C3 a C4 ddoe.
Cyflwr sefydlog
“Gallwn gadarnhau fod JT McNamara mewn cyflwr sefydlog yn dilyn llawdriniaeth hir ddoe,” meddai datganiad gan Dr Adran McGoldrick, a oedd hefyd yn siarad ar ran teulu’r joci.
“Mae’n parhau mewn coma, er ei les ei hun, yn ysbyty Frenchay.
“Fyddwn ni ddim yn gwneud mwy o ddatganiadau tan ddydd Mawrth, Mawrth 19, ac mae’r teulu’n gofyn yn garedig am lonydd gan y wasg a’r cyfryngau. Ond maen nhw’n ddiolchgar iawn am bob arwydd o gefnogaeth a dymuniadau gorau.”