Go on Mike!
Mae Mike Phillips wedi dweud bod tîm rygbi Lloegr yn “ffantastig” cyn y gêm fydd yn penderfynu pwy fydd yn cipio’r Bencampwriaeth yng Nghaerdydd.

Yn ôl y mewnwr, sy’n chwarae i glwb Bayonne yn Ffrainc, byddai buddugoliaeth yn erbyn tîm Chris Robshaw yn gamp arbennig.

‘‘Mae’n rhaid i ni fynd allan ar y cae ac ennill y gêm,’’ meddai Phillips, a fydd yn ennill cap rhif 77 yfory – sef y mewnwr gyda’r nifer fwyaf o gapiau dros y wlad.

‘‘Maen nhw’n dîm da, a rhaid cofio iddyn nhw guro Seland Newydd.  Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar ennill y gêm,’’ ychwanegodd Phillips.

Degawd o Meic – record wych yn erbyn y Saeson

Fe wnaeth Mike Phillips chwarae dros ei wlad am y tro cyntaf ddeng mlynedd yn ôl, ac ond wedi colli unwaith mewn pum gêm yn erbyn Lloegr yn y Bencampwriaeth.