Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau y bydd to Stadiwm y Mileniwm ar gau yfory, pan fydd Cymru yn chwarae Lloegr i benderfynu pwy fydd yn fuddugol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae’r rhagolygon yn gaddo  tywydd ansefydlog ar gyfer cic gyntaf y gêm, sydd am bump o’r gloch, felly mae’r penderfyniad wedi ei wneud i gau to’r stadiwm, a chreu’r amodau gorau posib ar gyfer y gêm bwysig.

Bydd gan Loegr gyfle i ennill y Gamp Lawn yn erbyn dynion Rob Howley yfory, ond os gallai’r dynion coch sicrhau buddugoliaeth o saith pwynt neu fwy, gallen nhw gipio’r tlws o ddwylo Chris Robshaw.

Er mwyn cau’r to mae goyn i’r ddau dîm gytuno i hynny, a gyda chymaint i’w hennill i’r ddau dîm, cafodd y penderfyniad ei wneud heddiw.