Mae’r Scarlets wedi cadarnhau y bydd yr asgellwr Andrew Fenby yn gadael y rhanbarth ar ddiwedd y tymor ac yn ymuno â’r Gwyddelod yn Llundain.

Bu Fenby gyda’r rhanbarth am bedwar tymor.

Hyd yn hyn mae’r asgellwr wedi chwarae 75 o weithiau i’r Scarlets gan sgorio 135 o bwyntiau ar ôl ymuno o’r Newcastle Falcons.  Mae Fenby yn dipyn o ffefryn ar Barc y Scarlets ac wedi chwarae fel cefwnr ac asgellwr.

‘‘Mae’r rhanbarth yn ddiolchgar am bob cyfraniad y mae Andy wedi ei wneud ar ac oddi ar y cae yn ystod y pedwar tymor diwethaf.  Mae wedi gweithio’n galed gan ennill ei le yn rheolaidd yn y tîm yn ddiweddar,’’ meddai Simon Easterby, prif hyfforddwr y Scarlets.

Fenby’n ffarwelio

‘‘Yr wyf yn ddiolchgar i’r hyfforddwyr am bob cymorth yma ac wedi gweithio gyda chwaraewyr arbennig o dda.  Diolch hefyd i’r cefnogwyr sydd wedi rhoi croeso cynnes i mi a byddaf yn gweld colli cymuned mor agos.  Fe fyddai’n braf gorffen y tymor trwy gyrraedd y gemau ail gyfle,’’ meddai Fenby.