Mae tîm pêl-droed Caerdydd wedi arwyddo amddiffynnwr Norwich Leon Barnett ar fenthyg hyd at ddydd Sadwrn 13 Ebrill.
Cafodd ei arwyddo yn dilyn anaf i bigwrn y capten Mark Hudson yn ddiweddar, ac fe fydd yn aros yng Nghaerdydd hyd nes y byddan nhw’n chwarae Nottingham Forest ar 13 o Ebrill.
Mae rheolwr Caerdydd, Malky Mackay yn gobeithio y bydd y gwaith papur wedi ei gwblhau fel bod Barnett ar gael i chwarae yn erbyn Sheffield Wednesday yfory.
Yn ddiweddar syrthiodd mantais Caerdydd ar frig y Bencampwriaeth i bedwar pwynt. Dim ond un gêm allan o’u pump diwetha’ maen nhw wedi curo.
Mae yna amheuaeth am ffitrwydd yr amddifynnwyr canol Mark Hudson a Ben Turner ar gyfer y gêm yfory.