Mae grwpiau moduro wedi croesawu’r newydd y gall y Canghellor George Osborne sgrapio cynlluniau ar gyfer cynnydd mewn prisiau petrol yn y Gyllideb wythnos nesaf.

Mae adroddiadau’n awgrymu y bydd George Osborne yn rhoi’r gorau i’w fwriad i gynyddu pris tanwydd o ryw 3c y litr yn yr hydref.

Mae’r Canghellor eisoes wedi sgrapio’r cynnydd ym mis Ionawr ac wedi gohirio cynnydd arall oedd i fod i ddod i rym fis nesaf.

“Os yw’r Canghellor yn bwriadu sgrapio’r cynydd yn yr hydref yna fe fydd hynny’n newyddion da i fodurwyr, busnesau a’r economi’n gyffredinol,” medai llywydd yr AA Edmund King.

Mae prisiau petrol wedi cyrraedd 140p unwaith eto er bod rhywfaint o newyddion da i fodurwyr yr wythnos hon ar ôl i archfarchnadoedd gyhoeddi gostyngiad yn eu prisiau ddoe.