Mae Morrisons wedi cyhoeddi gostyngiad o 7% yn ei elw heddiw i £879 miliwn.

Dywed y cwmni archfarchnad bod eu perfformiad yn waeth na’r disgwyl ac nad oedd ganddo ddigon o bresenoldeb yn y ddwy sector o’r farchnad sydd wedi gweld y twf mwyaf.

O ganlyniad mae Morrisons yn bwriadu cyflwyno ei siopau llai M Local i 100 o safleoedd erbyn diwedd y flwyddyn ac wedi cadarnhau y bydd yn dechrau gwerthu bwyd ar-lein erbyn mis Ionawr y flwyddyn nesaf.

Er mwyn cyflymu’r gwerthiant ar-lein mae Morrisons yn trafod gyda Ocado er mwyn dod i gytundeb i rannu gwybodaeth.

Dywedodd Morrisons, sy’n cyflogi 129,000 o staff mewn 498 o siopau, bod gwerthiant wedi gostwng 2.1% yn ystod y flwyddyn.

Dywedodd y prif weithredwr Dalton Philips bod 2012/13wedi bod yn “flwyddyn heriol” ac nad oedd y cwmni wedi perfformio mor dda ag oedan nhw wedi ei obeithio  ond eu bod yn bwriadu cyflwyno nifer o gynlluniau i fynd i’r afael a hynny.