Mae mwy na hanner o siopwyr wedi newid eu harferion siopa bwyd yn dilyn y sgandal cig ceffyl yn ôl y grŵp prynwyr, ‘Which?’.
Dywedodd Which? bod eu hymchwil yn dangos bod ffydd y cyhoedd yn y diwydiant bwyd wedi gostwng 24%, a bod 30% yn prynu llai o gig wedi ei brosesu ers y sgandal. Mae chwarter o bobol nawr unai yn prynu llai o brydau parod, neu yn dewis opsiwn llysieuol yn lle.
Daw’r ystadegau diweddaraf wedi i Tesco gyhoeddi ei fod yn tynnu mwy o gynnyrch oddi ar ei silffoedd, oherwydd eu bod yn cynnwys rhwng 2% a 5% o gig ceffyl.
Y ‘Simply Meatloaf’ yw’r pedwerydd eitem i’r archfarchnad dynnu o siopau oherwydd iddo gynnwys cig ceffyl.
Angen i’r Llywodraeth wneud mwy
Gofynnodd Which? i 2,064 o bobol am eu harferion siopa ar ddiwedd Chwefror, a darganfod bod rhan helaeth o’r boblogaeth yn credu bod angen i’r Llywodraeth wneud mwy ynglŷn â’r broblem.
Mae 83% yn meddwl y dylid nodi o ba wlad mae’r cig wedi dod ar labeli cynnyrch, ac mae 44% nawr yn treulio mwy o amser yn edrych ar gynhwysion bwyd yn yr archfarchnad.
Mae’r ystadegau hefyd yn dangos bod ffydd y cyhoedd mewn archfarchnadoedd wedi gostwng yn sylweddol wedi’r darganfyddiad o gig ceffyl ym mis Chwefror. Roedd 92% yn fodlon gyda bwydydd o archfarchnadoedd cyn y sgandal, ond mae’r nifer wedi gostwng i 72% erbyn heddiw.
Dywedodd prif gyfarwyddwr Which?, Richard Lloyd:
“Mae’r sgandal cig ceffyl yn dangos bod angen newid y ffordd y mae twill bwyd yn cael ei drin, a sut mae safonau yn cael eu gorfodi. Rhaid cywiro’r diffygion difrifol i sicrhau bod siopwyr yn hyderus yn y bwyd y maen nhw’n ei brynu unwaith eto.”