Bethan Jenkins
Mae’r Ceidwadwyr wedi dweud y dylai Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Bethan Jenkins, fod yn y siambr heddiw ar gyfer pleidlais i benderfynu a ddylid ei cheryddu hi’n ffurfiol am yfed a gyrru.

Yn ôl llefarydd ar ran y Ceidwadwyr dylai hi fod yno i “wynebu’r gosb fel unrhyw wleidydd cyfrifol.”

Mae Golwg360 yn deall fod y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn anhapus na fydd hi’n bresennol.

Mae Bethan Jenkins yn Llundain heddiw yn annerch gwrthdystiad gan gyn-weithwyr cwmni rhannau ceir Visteon, sy’n cynnwys pensiynwyr o ardal Abertawe. Bydd hi’n colli’r bleidlais yn y Senedd.

Yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr, “Nid yn unig mae hi’n colli cynnig o gerydd arwyddocaol iawn, mae hi hefyd i ffwrdd o’r Cynulliad ar ddiwrnod busnes prysur.”

Cynnig Mick Antoniw

Y prynhawn yma bydd Mick Antoniw, AC Pontypridd, yn cynnig y dylid ei cheryddu hi fel sy’n cael ei argymell yn adroddiad Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Cynulliad. Dywed yr adroddiad ei bod hi wedi dwyn anfri ar y sefydliad.

Mae Bethan Jenkins wedi dweud ei bod hi’n derbyn y cynnig o gerydd.

Cafodd AC Gorllewin De Cymru ei gwahardd rhag gyrru am 20 mis ar ôl pledio’n euog i yfed a gyrru yn Llys Ynadon Caerdydd fis Rhagfyr y llynedd.

Ers y digwyddiad, mae Bethan Jenkins wedi sôn am ei brwydr yn erbyn iselder.

Fis Mai’r llynedd roedd Keith Davies, AC Llanelli, yn bresennol yn y Senedd pan bleidleisiodd yr aelodau’n unfrydol o blaid ei geryddu yntau am ddigwyddiad mewn gwesty ym Mae Caerdydd.