Arglwydd Ashcroft
Mi fyddai’r Torïaid yn colli 93 sedd i Lafur petai etholiad cyffredinol yn digwydd yfory, yn ôl pôl piniwn sydd wedi cael ei wneud gan Arglwydd Ashcroft, cyn Is-gadeirydd y Torïaid.
Holwyd cyfanswm o 19,000 o bobl ar draws 213 etholaeth ym Mhrydain, ac mae’r ymchwil yn dangos y byddai plaid Nick Clegg yn colli 17 sedd i’r Torïaid a 13 sedd i Lafur.
Datgelodd Arglwydd Ashcroft ei ganlyniadau mewn cynhadledd a drefwnyd gan y Torïaid yn Llundain bore ma o’r enw Victory 2015.
Mae’r pôl piniwn yn dangos y byddai Llafur yn ennill 109 sedd newydd mewn etholiad cyffredinol heddiw, a fyddai’n rhoi cyfanswm o 367 o aelodau seneddol iddyn nhw yn y Tŷ Cyffredin, mwyafrif o 84.
Roedd Arglwydd Ashcroft yn pwysleisio, fodd bynnag, mai ciplun o’r sefyllfa heddiw oedd y pôl ac nid rhagwelediad o’r hyn a all ddigwydd.
“Ond dwi’n gobeithio y bydd yn rhoi’r sialens mewn persbectif,” meddai. “Dyw’r sefyllfa ddim mor ddifrifol ag y mae rhai penawdau yn awgrymu.”