Mae Banc Brenhinol yr Alban, RBS, wedi cyhoeddi colledion mawr bore ma ond hefyd wedi cyfaddef rhoi bonysau gwerth £607 miliwn i’w staff yn 2012.
Fe wnaeth y banc golledion cyn treth o £5.2 biliwn yn 2012 o’i gymharu â £1.2 biliwn yn 2011.
Mae’r trethdalwr yn berchen ar gyfran o’r banc.
Roedd colledion y banc wedi cynyddu ar ôl i RBS dalu £390 miliwn yn dilyn helynt dylanwadu ar gyfradd Libor.
Dywedodd RBS ei fod wedi talu £607 miliwn mewn bonysau i staff yn 2012, gostyngiad o £789 miliwn yn 2011.