Arglwydd Rennard
Mae disgwyl i ddynes, sydd yn gysylltiedig â honiadau bod yr Arglwydd Rennard o’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi aflonyddu’n rhywiol ag aelodau’r blaid, wneud cwyn swyddogol i’r heddlu heddiw.

Mae Alison Smith, fu’n ymgyrchydd y blaid ac sydd bellach yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Rhydychen, wedi dweud ei bod yn bwriadu siarad gyda’r heddlu ynglŷn â honiadau bod yr Arglwydd Rennard wedi ymddwyn yn amhriodol tuag ati.

Dywedodd wrth y BBC bod digwyddiad honedig yn 2007 yn “fwy difrifol” na rhoi llaw ar ei phen-glin.

Ychwanegodd ei bod wedi penderfynu datgelu ymddygiad honedig yr Arglwydd Rennard am ei fod wedi dechrau cymryd rhan mewn digwyddiadau hyfforddi unwaith eto.

Mae’r ffordd mae arweinydd y blaid, Nick Clegg, wedi delio a’r honiadau wedi cael ei feirniadu – roedd y blaid wedi awgrymu nad oedd yn ymwybodol o’r honiadau ond fe gyfaddefodd yn ddiweddarach ei fod yn gwybod am bryderon cyffredinol yn ymwneud a’r Arglwydd Rennard.

Mae’r   Arglwydd Rennard wedi dweud y bydd yn cydweithio gydag unrhyw ymchwiliad ac mae wedi gwadu’r honiadau yn ei erbyn.