Carwyn Jones
Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi y bydd system anrhydeddau newydd yn cael ei sefydlu yng Nghymru y flwyddyn nesaf.
Roedd Carwyn Jones yn ymateb i gynnig gan y Ceidwadwyr i gael cydnabyddiaeth Gymreig i waith a llwyddiannau pobol yng Nghymru.
Dywedodd Carwyn Jones y bydd Gwobrau Dewi Sant yn cydnabod “pobol gyffredin sydd yn gwneud pethau anghyffredin.” Cynigiodd fod pobol fusnes ymhlith y rhai fydd yn cael eu cydnabod, a phobol sy’n codi proffil Cymru yn y byd.
“Bydd y gwobrau yn cael eu trefnu gan lywodraeth ond heb eu dylanwadu gan lywodraeth,” medd Carwyn Jones ar lawr y Senedd heddiw. Mae disgwyl mwy o fanylion am Wobrau Dewi Sant maes o law.
Gŵyl banc ar Ddydd Gŵyl Dewi?
Dywedodd Andrew RT Davies dod gwledydd eraill Prydain wedi “achub y blaen” ar Gymru wrth hyrwyddo’u hunain ar y llwyfan rhyngwladol a bod angen i Gymru godi ei phroffil.
Dywedodd y dylai’r Cynulliad ystyried pennu Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc yng Nghymru, ond nid oedd Arweinydd y Ceidwadwyr o’r farn y dylai Cymru gael gŵyl banc ychwanegol ond hytrach ad-drefnu’r gwyliau sydd gyda ni eisoes.
Roedd Peter Black o’r Democratiaid Rhyddfrydol o blaid cael gŵyl banc ychwanegol gan fod gan Gymru lai o wyliau swyddogol na gwledydd eraill Ewrop ar gyfartaledd.
Wrth ymateb dywedodd Carwyn Jones nad yw gwyliau banc yn fater sydd wedi cael ei ddatganoli i Gymru, yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon, ond ei fod ef yn “agored i’r syniad y dylwn ni geisio cael pŵer i ddatgan gwyliau banc.”
“Mae hyn yn rhywbeth y byddwn ni’n ceisio amdano yn y dyfodol,” meddai.