Mae Heddlu Gwent yn chwilio am dri dyn sydd wedi dianc o garchar Prescoed, Sir Fynwy.

Dywed yr Heddlu bod Jason Morris, Stephen Booth a John Phillips, sydd i gyd wedi eu carcharu am droseddau yn ymwneud a lladrata, wedi dianc o’r carchar nos Fawrth, 26 Chwefror.

Mae Stephen Booth yn 5’4” o daldra, yn denau a gyda barf brown.

Mae Jason Morris yn 5’9”, gwallt brown, ac mae ganddo nifer o datŵs yn cynnwys y gair ‘Jason’ ar ei wddf.

Mae John Phillips yn denau gyda gwallt brown a barf lawn.

Dywedodd yr Heddlu nad yw unrhyw un o’r dynion yn droseddwyr rhywiol, ond bod risg gan nad ydyn nhw bellach dan wyliadwriaeth yr heddlu.

Mae Heddlu Gwent yn ceisio dod o hyd i’r dynion, ac yn rhybuddio’r cyhoedd i gadw draw os ydyn nhw’n gweld y dynion.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r Heddlu ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.