Lesley Griffiths
Mae’r Gweinidog Iechyd wedi cadarnhau heddiw fod ganddi’r hawl i ymyrryd ym mwriad Bwrdd Iechyd gogledd Cymru i symud gwasanaeth arbenigol i fabanod i Loegr.

Cafodd cynlluniau dadleuol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fendith y Cyngor Iechyd Cymuned lleol ond mae Lesley Griffiths wedi dweud yn y Senedd fod ganddi’r hawl o hyd i ymyrryd a’i bod hi wedi cael nifer fawr o lythyron ar y pwnc.

Mae nifer o Aelodau Cynulliad y gogledd, gan gynnwys Ann Jones, AC Llafur Dyffryn Clwyd, yn galw ar Lesley Griffiths i ymyrryd.

Maen nhw’n anfodlon fod gwasanaeth arbenigol i fabanod yn cael ei symud o ysbytai Glan Clwyd a Maelor Wrecsam a’i adleoli yn Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri ar lannau Mersi. Mae Ysbyty Maelor Wrecsam o fewn etholaeth y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths.

‘Ymbil ar y Cyngor Iechyd Cymunedol i ail-ystyried’

Mae tri o aelodau Cynulliad y gwrthbleidiau, Darren Millar, Llŷr Huws Gruffydd, ac Aled Roberts, wedi rhyddhau datganiad ar y cyd yn croesawu’r newydd fod y Gweinidog Iechyd yn ystyried ymyrryd.

“Ar ôl gwrando ar ein hetholwyr a dadleuon clinigwyr rydym ni’n gwybod pa mor gryf mae’r dadleuon o blaid cadw gwasanaethau gofal newydd-anedig yng Ngogledd Cymru,” medd y datganiad.

“Fel y corff sy’n cynrychioli barn y bobol yn y gogledd rydym yn ymbil ar y Cyngor Iechyd Cymuned i ail-ystyried a chyfeirio’r mater i’r Gweinidog.

“Os ydyn nhw’n methu â gwneud hynny byddwn yn galw ar y Gweinidog i ddefnyddio’i phwerau ac ymyrryd.”

Mae gan y Cyngor Iechyd Cymuned tan Fawrth 11 i gyfeirio’r mater i’r Gweinidog, ar ôl iddyn nhw gael estyniad o ddeg diwrnod.